7 Diwrnod i Ailosod
7 Diwrnod i Ailosod
MAETH. YMARFER CORFF. MYFYRDOD. CWSG
Croeso i 7 Diwrnod i Ailosod!
Rwyf mor gyffrous am y rhaglen yma am gymaint o resymau! Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor gyflym y mae amser yn hedfan, felly bydd 7 diwrnod yn hedfan heibio! Dyma pam y byddwn i wrth fy modd petaech chi wir yn ymrwymo i'r arferion yma am y 7 diwrnod cyfan. Rwyf wedi gwneud yn siŵr bod yr amserlen yn hynod o syml a hawdd i’w ddilyn a dylai fod yn gwbl ymarferol, ni waeth pa mor brysur yw eich bywyd, felly gwnewch addewid i chi'ch hun, am y 7 diwrnod nesaf i ymrwymo, ymrwymo , ymrwymo!
Eich Ryseitiau
-
BORE
Dwr a Lemwn
Pam?
Mae Dŵr a Lemwn yn rysáit auryvedic sydd wedi'i ddefnyddio ers canrifoedd i ddadwenwyno a hydradu'r corff!
Y rheswm ei fod mor arbennig i yfed peth cyntaf yn y bore yw oherwydd ei fod hefyd yn rhoi ‘kick start’ i ein metaboledd a'n treuliad ac yn cael pethay i ‘symud’ yn y bore!
Hefyd, gan nad ydym wedi bwyta nac yfed unrhyw beth ers tua 6/7 awr, mae’n ailhydradu'r corff yn dda.
Rysait
Fel arfer rwy’n ychwanegu twr berwedig a sblash o ddŵr oer ar ben dwy sleis fach o lemwn.
Gallwch un ai fynd ati i neud eich smwddi yn syth, yn enwedig os ydych yn starfio neu aros nes eich bod wedi gorffen eich ymarfer corff ac yna fynd ati i ddilyn y rysáit isod.
Os ydych ddim yn rhywun sydd fel arfer yn neud diodydd gwyrdd, efallai fydd eich system treulio yn cael bach o shock os ydych yn dechrau ychwanegu lot mawr o gynhwysion gwyrdd ar unwaith. Cadwch lygaid ar sut rydych yn teimlo ac os mae’n ormod hanerwch gynhwysion gwyrdd y smwddi.
Cynhwysion smoothie
1 cwpan o Sbigoglys / Cêl
1 Banana
1 llwy fwrdd o Menyn Cnau Peanut / Almon
1/2 Medjool Dates (pitted)
1 cwpan o Unrhyw laeth rydych chi'n ei ffansio!
Sut
Rhowch y cynhwsyion i gyd gyda’i gilydd mewn blender a mwynhau!
-
Fel arfer mae’n syniad cymryd y Magnesium tua 10-15 munud cyn i chi fynd i’r gwely. Ddim yn rhy hwyr cyn gwely neu efallai fyddwch angen y ty bach!
Yr un peth os ydych wedi dewis y te yn lle!
Dilynwch y myfyrdod isod jest cyn mynd i’r gwely i setlo’r corff a helpu’r corff i ddeall bod hi’n amser tawelu. Gallwch orwedd yn y gwely gyda headphones yn gwrando arno neu eistedd i fynny yn sukha asana (coesau wedi croesi, cefn syth) yn gwely neu ar lawr.