Mae aros yn gyson â'ch sesiynau ymarfer corff erioed wedi bod mor hawdd!

Ymunwch â SAIB heddiw i dderbyn eich amserlen ymarfer corff a theimlo budd eich ymarfer heddiw!

Mae eich Aelodaeth yn cynnwys

Adeiladwch Corff a Meddwl Cryf!

  • Dosbarthiadau Ioga a Barre ar gyfer dechreuwyr, lefel uwch a beichiogrwydd sydd yn amrywio o 3 munud - awr.

  • Amserlen wythnosol newydd i ddilyn, yn cael ei hanfon bob dydd Sul, i'ch cadw'n llawn cymhelliant, yn gyffrous ac yn ymroddedig i'r wythnos i ddod!

  • Prysur? Dilynwch ein hamserlen 10 Munud newydd sbon i'ch helpu i ffitio'ch sesiynau i mewn, waeth pa mor brysur yw bywyd!

  • Teimlwch budd corfforol a feddyliol ein dosbarthiadau yn syth ar ôl i chi orffen un!

Pam bod Aelodaeth SAIB yn wahannol?

  • AMSERLEN

    Heb gynllun, does gennym ni ddim byd! Pan fyddwch yn ymuno â'n haelodaeth. byddwch yn cael amserlen wythnosol i'ch inbox bob dydd Sul sy'n cynnwys eich amserlen ymarfer corff ar gyfer yr wythnos i ddod, yn gwneud hi'n hawdd gwybod ble i ddechrau a sut i aros yn gyson!

  • CYSONDEB

    Mae cysondeb yn allweddol ar gyfer cynhyrchu canlyniadau, fodd bynnag mae bywyd yn brysur ac efallai na fydd gweithio allan am 20 munud y dydd yn nod realistig, felly i'ch helpu i aros mor gyson â phosibl, rydym wedi creu’r dull 10 munud - casgliad o ddosbarthiadau 10 munud y gallwch eu ffitio i mewn i'ch amserlen, ni waeth pa mor brysur yw bywyd!

  • BUDD I'R MEDDWL A CHORFF

    Rydyn ni'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a chorff oherwydd rydyn ni'n deall pa mor gydgysylltiedig yw'r ddau! Mae canolbwyntio ar anadl a symudiad yn cynhyrchu canlyniadau corfforol a meddyliol anhygoel yn syth a byddwch yn teimlo buddion ein holl ddosbarthiadau yr eiliad ar ôl i chi eu gorffen!

Ymunwch nawr i dderbyn eich amserlen wythnosol o ddosbarthiadau Barre ac Yoga a dechrau teimlo buddion eich ymarfer heddiw!

Amadana i

Helo, Ceri ydw i!

Treuliais dros ddegawd o fy mywyd mewn lle tywyll a rhyfedd gyda fy iechyd a diet. Doedd gen i ddim syniad sut i fod yn ‘iach’ a byddwn yn ‘self sabotagio’ fy hun unrhyw bryd yr oeddwn yn teimlo fy mod i’n cyrraedd rhywle mwy sefydlog a chytbwys.

Yna des i ar draws Yoga a newidiodd popeth! Fe wnaeth ymrwymo i ymarfer Ioga rheolaidd drawsnewid nid yn unig fy iechyd corfforol ond meddyliol hefyd! Roeddwn i'n gwybod y byddai'r ymarfer yma yn helpu cymaint o bobl eraill, felly fe wnes i hyfforddi fel athrawes Yoga a Barre a dwi heb edrych yn ôl ers ni!

Rydw i wedi bod yn dysgu nawr ers dros 6 mlynedd ac wedi creu SAIB i wneud gweithio allan bob dydd yn hwyl, yn gyraeddadwy ac yn realistig! Rwy'n mawr obeithio eich bod chi'n caru'r gwasanaeth ac ni allaf aros i chi gael yr un buddion ag yr wyf wedi o ymarfer Yoga a Barre yn gyson!